Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3, Senedd
a fideogynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Hydref 2023
Amser:
09.30 -
11.33
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13799
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Alun Davies AS (yn lle Rhianon Passmore AS) |
Tystion: |
Ken Skates AS, Comisiynydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Alun Davidson, Clerc, Tîm Newid Cyfansoddiadol / Strategaeth Busnes Seneddol Dr Elizabeth Haywood, Cadeirydd, Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd Daniel Hurford, Clerc, Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd |
Staff y Pwyllgor: |
Leanne Hatcher (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Christian Tipples (Ymchwilydd) Yr Athro Ailsa Henderson (Cynghorwr Arbenigol) |
Cofrestru (09.00-09.15)
Rhag-gyfarfod Preifat (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
1.3 Roedd Alun Davies AS yn bresennol fel dirprwy yn lle Rhianon Passmore AS.
1.4 Datganodd Mike Hedges AS ei fod yn Ymddiriedolwr ar Fwrdd Pensiynau Aelodau’r Senedd.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 – Llythyr gan Archwilio Cymru: Rhagor o wybodaeth yn dilyn sesiwn Archwilio Cymru ar 20 Medi - 2 Hydref 2023
2.2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) – Gwelliannau Cyfnod 3 y Llywodraeth - 2 Hydref 2023
3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn y Senedd
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gan Ken Skates AS, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; a Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid.
3.2 Cytunodd Comisiwn y Senedd i ddarparu nodyn ar y canlynol:
· Amcangyfrif o gostau teithio a llety’r Aelodau, yn benodol, pam na wnaeth y Comisiwn fodelu’r costau presennol yn y meysydd hyn i gynhyrchu ystod o amcangyfrifon.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 5 a 7
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gan Dr Elizabeth Haywood, Cadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd; a Daniel Hurford, Clerc, Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd.
7 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.